At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Gêm ystwytho corfforol Titrwm Tatrwm Sefwch mewn llinell yng nghanol y gofod gydag o leiaf droedfedd o fwlch rhwng pob un Enw un ochr ir gofod yw ID: 727378
Download Presentation The PPT/PDF document "SGILIAU SYRCAS : SGILIAU AR Y LLAWR" is the property of its rightful owner. Permission is granted to download and print the materials on this web site for personal, non-commercial use only, and to display it on your personal computer provided you do not modify the materials and that you retain all copyright notices contained in the materials. By downloading content from our website, you accept the terms of this agreement.
Slide1
SGILIAU SYRCAS
:
SGILIAU AR Y LLAWR
At ddefnydd TGAU
Celfyddydau Perfformio CBACSlide2
Gêm ystwytho corfforol
Titrwm
,
Tatrwm
Sefwch mewn llinell yng nghanol y gofod gydag o leiaf droedfedd o fwlch rhwng pob un.
Enw un ochr i’r gofod yw
Titrwm
ac enw’r ochr arall yw
Tatrwm
.
Rhedwch i ba bynnag ochr o’r ystafell a elwir allan. Efallai bydd yr athro’n pwyntio i ochr wahanol i’r un a fydd yn ei galw allan.Wedyn bydd eich athro’n galw dau gyfeiriad ar y tro, e.e. Titrwm titrwm (chwaraewyr i redeg i Titrwm ac yn ôl i’r canol wedyn i Titrwm eto ac yn ôl i’r canol cyn sefyll).
GÊM UNSlide3
Gêm Cydsymud
Pwyntio at y Gwningen
Codwch eich llaw dde i uchder ysgwydd, cau’r llaw yn ddwrn ond gadael eich dau fys cyntaf yn pwyntio i fyny’n syth.
Â’ch llaw chwith, pwyntiwch â’ch bys blaen at eich llaw dde.
Symudwch y ddwy law drosodd i’r dde, gyda’r llaw â’r ddau fys i fyny yn arwain y llaw sy’n pwyntio.
Wedyn newidiwch ddwylo fel bod y llaw dde bellach yn pwyntio at eich llaw chwith, a dau fys cyntaf y llaw honno bellach yn pwyntio i fyny.
Ailadroddwch y symudiad gan gyflymu’n raddol.
GÊM DAUSlide4
Gêm Canolbwyntio
Syrcas,
Poi
, Pêl Gerdded
Sefwch mewn cylch. Mae un person yn cychwyn drwy ddweud “syrcas” a chlapio unwaith wrth y person ar y chwith. Ar ôl i bawb ddweud “syrcas” a chlapio unwaith o amgylch y cylch a’ch bod yn ôl gyda’r person cyntaf, wedyn gellir defnyddio “
poi
”.
Pan fydd rhywun yn anfon y clap atoch, gallwch ei anfon yn ôl i’r cyfeiriad y daeth drwy groesi’ch breichiau ar eich brest a dweud “
poi
”. Wedyn rhaid i’r sawl a gafodd y “
poi” naill ai anfon y clap yn ôl y ffordd arall neu roi “pêl gerdded” i rywun. Gallwch anfon “pêl gerdded” at rywun yn y cylch, ar wahân i’r ddau berson sydd nesaf atoch chi ar y naill ochr a’r llall, drwy chwifio’ch breichiau’n syth allan o’ch blaen at y sawl rydych yn ei hanfon ato. Wedyn gall y sawl sy’n derbyn y bêl gerdded naill ai anfon “pêl gerdded” at rywun arall neu anfon clap “syrcas” i’r chwith neu i’r dde. Allwch chi ddim ateb pêl gerdded â “poi”.
GÊM TRISlide5
Troelli Platiau
Ffon Syth
– canolbwyntiwch ar gadw’r ffyn yn fertigol bob amser.
Dwy law
– dylid ymarfer â’r ddwy law.Symudiad cylchol
– ymarferwch symudiad cylchol da o’r arddwrn a blaen y fraich.
Troellwch y platiau’n gyflymach a chyflymach nes taro’r pwynt canol.
SGÌL UNSlide6
Rhubanau
Arbrofi
– chwyrlïwch y rhuban o gwmpas i weld sut mae’n teimlo a sut mae’n ymateb i’ch symudiadau.
Lefelau
– ceisiwch chwyrlïo ar wahanol uchderau/planau i gael mwy o effaith weledol.Ymarfer â dwy law
– newidiwch ddwylo wrth roi cynnig ar driciau newydd er mwyn gallu defnyddio’r ddwy ar yr un pryd.
SGÌL DAUSlide7
Blychau Sigâr
Ymarfer ailafael
– ymarferwch afael yn y blychau sigâr mewn gwahanol safleoedd.
Taflu a dal
– ymarferwch daflu a dal y blychau sigâr i’r ddau gyfeiriad.
Troelli
– ymarferwch droi’r blychau i’r ddau gyfeiriad.
SGÌL TRISlide8
Sgiliau uwch a dilyniant
Ar
ôl treulio ychydig o amser yn mynd
trwy’r
sgiliau sylfaenol, bydd eich athro/athrawes yn siarad â chi i weld pa driciau newydd yr hoffech eu dysgu ac yn cynnig cyngor ynghylch pa dechnegau sydd orau i’w hymarfer.
Wrth ganolbwyntio ar un tric newydd am
sesiwn,
byddwch yn aml yn gallu ei ddysgu erbyn diwedd y wers, a byddwch
yn
teimlo
ichi gyflawni rhywbeth. Slide9
Creu trefniant sylfaenol
Mae
creu trefniant yn rhan hanfodol o berfformio syrcas, felly syniad da iawn yw dysgu’r sgiliau sylfaenol nawr.
Perfformiwch y triciau y rydych
chi’n gyfforddus â nhw yn gyntaf, cyn gorffen gyda’r tric newydd y buoch chi’n ei ymarfer yn y sesiwn honno. Slide10
Dangos yr hyn a ddysgwyd
Mae
perfformio’n rheolaidd o flaen cynulleidfa’n hanfodol hefyd wrth ddysgu syrcas.
Cynhaliwch sioe fach ar ddiwedd pob sesiwn lle gall pob un berfformio yn ei dro, yn unigol, fesul dau neu mewn grwpiau.Bydd hyn yn gwella eich presenoldeb llwyfan yn aruthrol ac yn helpu lleihau nerfau yn y dyfodol.
Mae’n bwysig eich bod yn gefnogol iawn i’ch cyd-berfformwyr yn y rhan hon o’r sesiwn.